Baner Portiwgal
From Wikipedia, the free encyclopedia
Baner ddeuliw fertigol gyda stribed chwith gwyrdd (i gynrychioli Infante Dom Henrique a hanes fforio Portiwgal) a stribed dde coch hirach (i gynrychioli chwyldro) gyda tharian yr arfbais dros astrolab sfferaidd (armillary sphere) wedi'i ganoli dros ffin y ddau stribed yw baner Portiwgal. Mabwysiadwyd ar 30 Mehefin, 1911.