Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd 175 aelod yn nhîm Cymru yn cystadlu mewn 15 camp wahanol yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd, India, 3–14 Hydref 2010.
Enghraifft o'r canlynol | nation at sport competition |
---|---|
Dyddiad | 2010 |
Gwladwriaeth | India |
Y codwr pwysau, Michaela Breeze, oedd capten y tîm gyda'r nofiwr, David Davies, yn cludo'r Ddraig Goch i'r Seremoni Agoriadol a'r Bowliwr Robert Weale yn ei chludo i'r Seremoni Gloi.
Llwyddodd Weale i ennill ei ail fedal aur yn ei seithfed ymddangosiad yng Ngemau'r Gymanwlad 24 mlynedd ar ôl ennill ei fedal aur cyntaf yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1986 yng Nghaeredin. Jazz Carlin a Becky James oedd yr unig aelodau o dîm Cymru i ennill mwy nag un medal gyda'r ddwy yn cipio un medal arian ac un medal efydd.
Daeth y medalau enillwyd yn Delhi â chyfanswm Cymru yn holl hanes y Gemau i 236 o fedalau (51 aur, 78 arian, 107 efydd).