Adeileddiaeth
mudiad yn y celfyddydau gweledol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Adeileddiaeth (Saesneg: Constructivism) yn athroniaeth gelfyddydol a phensaernïol a ddechreuwyd yn Rwsia gan Vladimir Tatlin yn 1913. Roedd yr athroniaeth yn ymwrthod â'r syniad o gelf fel gweithred arwahân ac hunangynhwysol ac bod iddo, yn hytrach, rôl mewn llunio cymdeithasol. Roedd y mudiad o blaid celf fel gweithred at bwrpas cymdeithasol. Roedd yn fudiad avant-garde a gafodd ddylanwad fawr ar fudiadau celf y 20g, gan ddylanwadu symudiadau fel Bauhaus a De Stijl. Roedd ei ddylanwad yn eang, gydag effaith dwys ym maes pensaernïaeth, cerflunio, dylunio graffig, dylunio diwydiannol, theatr, ffilm, dawns, ffasiwn ac, i ryw raddau, cerddoriaeth.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol ...
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad athronyddol, arddull, arddull pensaernïol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau