Anaïs Nin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures gweithiau erotig, Ffrengig oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur storiau byrion a sgriptiwr.
Anaïs Nin | |
---|---|
Ganwyd | Ángela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin Culmell 21 Chwefror 1903 Neuilly-sur-Seine |
Bu farw | 14 Ionawr 1977 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, hunangofiannydd, dyddiadurwr, sgriptiwr, nofelydd, dawnsiwr |
Adnabyddus am | Delta of Venus |
Tad | Joaquín Nin |
Mam | Rosa Culmell Vaurigaud |
Priod | Hugh Parker Guiler, Rupert Pole |
Gwobr/au | doctor honoris causa, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times |
llofnod | |
Ei henw llaw oedd Angela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin y Culmell ac fe'i ganed yn Neuilly-sur-Seine, maestref ar ochr gorllewinol Paris; bu farw yn Los Angeles o ganser ac fe'i claddwyd yn y môr. [1][2][3][4][5][6]
Bu'n briod i Hugh Parker Guiler ac yna i Rupert Pole.
Yn un-ar-ddeg oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiaduron cynhwysfawr, a pharhaodd i wneud hyn drwy gydol ei bywyd. Mae ei dyddiaduron, y cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ystod ei hoes, yn manylu ar ei meddyliau a'i theimladau preifat. Maent hefyd yn disgrifio ei phriodas â Hugh Parker Guiler ac yna priodi Rupert Pole, yn ogystal â'i affêrs niferus, gan gynnwys y rhai gyda'r seicoanalydd Otto Rank a'r awdur Henry Miller. Dylanwadodd y ddau yma ar Nin yn fawr iawn. [7]