Brân goesgoch
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aelod o'r genws Pyrrhocorax yn nheulu'r brain yw'r Frân goesgoch (enw gwyddonol: Pyrrhocorax pyrrhocorax; Saesneg: Red-billed chough).
Brân goesgoch | |
---|---|
Recordiad o'r Frân goesgoch yng Ngheredigion | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Pyrrhocorax |
Rhywogaeth: | P. pyrrhocorax |
Enw deuenwol | |
Pyrrhocorax pyrrhocorax (Linnaeus, 1758) | |
Mae'n aderyn gweddol fawr, 37–41 cm o hyd a 68–80 cm ar draws yr adenydd, ac mae'r pig a choesau coch yn ei wneud yn hawdd ei adnabod. Mae'n nythu ym Mhrydain, de Ewrop yn enwedig yr Alpau, rhannau mynyddig o ganolbarth Asia ac yn yr Himalaya, lle gall fod yn gyffredin iawn, er enghraifft yn Bhutan mae'n un o'r adar mwyaf cyffredin. Ceir hefyd boblogaeth yn ucheldiroedd Ethiopia. Fel rheol mae'n nythu mewn creigiau, un ai yn y mynyddoedd neu ar yr arfordir.
Fe'i ceir hefyd o gwmpas arfordir Ynys Môn, Llŷn a Sir Benfro ac yn y mynyddoedd, yn enwedig yn Eryri.
Yng ngwledydd Prydain mae'n aderyn sy'n gyfyngedig i'r ardaloedd Celtaidd, gorllewin yr Alban, Ynys Manaw, Cymru a Chernyw. Mae'n ymddangos ar arfbais Cernyw ac yn cael ei ystyried yn symbol o'r wlad, ond dim ond yn ddiweddar y mae ychydig o barau wedi dychwelyd i nythu yno ar ôl bod yn absennol am flynyddoedd lawer.
Ymddengys y frân goesgoch ar arfbais Sir Fflint, yn ogystal â bod yn aderyn cenedlaethol Cernyw. Caiff ei dangos hefyd ar arfbais Ysgol Maelor, Llannerch Banna oherwydd roedd y pentref ei hun unwaith oyn cael ei gynnwys yn ffiniau hen Sir Fflint.