![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fc/Claude_Francois_1965-4.jpg/640px-Claude_Francois_1965-4.jpg&w=640&q=50)
Claude François
cyfansoddwr a aned yn 1939 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Canwr pop o Ffrainc oedd Claude François (llysenw Cloclo) (1 Chwefror 1939 – 11 Mawrth 1978). Ganwyd yn Ismaïlia, yn yr Aifft. Bu farw yn ddamweiniol ym Mharis wrth gyffwrdd lamp drydan ddiffygol pan oedd e yn y bath. Ffrancwr oedd ei dad; rheolwr ar gamlas Suez. Roedd ei fam o Galabria yn yr Eidal.
Claude François | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Cloclo, Claudio ![]() |
Ganwyd | Claude Antoine Marie François ![]() 1 Chwefror 1939 ![]() Ismailia ![]() |
Bu farw | 11 Mawrth 1978 ![]() o trydanladdiad ![]() 16ain bwrdeistref o Baris ![]() |
Label recordio | Fontana Records, Philips Records, Flèche Productions, Phonogram Records, Carrère Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, swyddog gweithredol cerddoriaeth, ffotograffydd, actor, canwr-gyfansoddwr, dawnsiwr, artist recordio, cyfansoddwr ![]() |
Arddull | yé-yé, chanson, disgo, cerddoriaeth boblogaidd, ballade ![]() |
Priod | Janet Woollacott ![]() |
Partner | France Gall ![]() |
Plant | Claude François Jr., Marc François ![]() |
Gwefan | http://www.claudefrancois.fr ![]() |
Dysgodd Claude chwarae'r piano, y ffidil a'r drymau ac fe aeth i Monte-Carlo i chwarae'r drymau mewn band jazz. Yn 1960 fe aeth e i Baris ar ôl ei gynghori gan Brigitte Bardot a Sacha Distel.
Yn 1967 fe ysgrifennodd "Comme d'habitude" gyda Jaques Revaux a Gilles Thibaut. Pan glywodd Frank Sinatra y gân, fe ofynnodd i David Bowie os oedd e'n gallu cyfieithu'r gân i Saesneg. Dywedodd Bowie fod e'n medru gwneud ond dydy'r geiriau ddim yn dda iawn. Fe ysgrifennodd Paul Anka eiriau newydd "My Way" i'r gân.