Cod ffynhonnell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn cyfrifiadura, casgliad o god (neu sgript ddigidol) sy'n ddarllenadwy gan berson yw cod ffynhonnell (source code); mae'n iaith rhaglennu ar ffurf testun plaen fel arfer. Mae cod ffynhonnell rhaglen wedi'i gynllunio'n arbennig i hwyluso gwaith rhaglenwyr cyfrifiadur, ac sy'n rhoi cyfarwyddiadau i'r cyfrifiadur. Yn aml, trawsnewidir y cod ffynhonnell i god-peiriant deuaidd (binary code) sy'n ddealladwy gan y cyfrifiadur. Yna, caiff y cod-peiriant ei storio er mwyn ei weithredu naill ai ar unwaith neu rywdro'n ddiweddarach.
Yn ei gyfanrwydd, mae'r cod yn ffurfio rhaglen gyfrifiadurol a gedwir ar ffurf ffeil-destun ar ddisg caled y cyfrifiadur.