Cyngor Rhanbarthol Llydaw
Cyngor rhanbarthol ar gyfer 4 o 5 departement llawn Llydaw. Lleoliad yn Roazhon, etholir pob 6 mlynedd. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyngor rhanbarthol ar gyfer Llydaw weinyddol yw Cyngor Rhanbarthol Llydaw (Ffrangeg: Conseil régional de Bretagne, Llydaweg: Kuzul Rannvroel Breizh). Mae'n cynnwys 83 o gynghorwyr o 4 département ac nid y 5 llawn hanesyddol; mae département Liger-Atlantel (ardal dinas Naoned, prifddinas hanesyddol Llydaw ar un adeg, wedi ei hepgor. Cynhelir etholiadau i'r cyngor pob 6 mlynedd, bu'r un ddiwethaf yn 2021.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Rhanbarth ...
Enghraifft o'r canlynol | regional council |
---|---|
Rhanbarth | Roazhon |
Gwefan | http://www.bretagne.bzh/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Peidied drysu a Senedd Llydaw - senedd hanesyddol y wlad a sefydlwyd yn ystod Dugaeth Llydaw a bu'n weithredol hyd at iddo gael ei diddymu (er na gydnabyddodd y Senedd ei hun hynny) yn ystod y Chwyldro Ffrengig.