Cytundeb Paris (2016)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cytundeb Paris (Ffrangeg: l'accord de Paris) yn gytundeb o fewn Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC), ar liniaru, addasu a chyllido ar gyfer newid hinsawdd, a lofnodwyd yn 2016. Ei ragflaenydd yw Protocol Kyoto (1992). Trafodwyd y cytundeb gan gynrychiolwyr 196 o bartïon (gwladwriaethau) yn 21ain Cynhadledd Partïon yr UNFCCC yn Le Bourget, ger Paris, Ffrainc, a’i mabwysiadu trwy gonsensws ar 12 Rhagfyr 2015.
Partïon-wladwriaethau Llofnodwyr
Partïon hefyd a gwmpesir gan gadarnhad yr Undeb Ewropeaidd Nid yw'r cytundeb yn berthnasol | |
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb, cytundeb ar yr amgylchedd |
---|---|
Dyddiad | 12 Rhagfyr 2015 |
Awdur | Y Cenhedloedd Unedig |
Rhan o | Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd |
Iaith | Saesneg, Arabeg, Sbaeneg, Tsieineeg, Rwseg, Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 12 Rhagfyr 2015 |
Lleoliad | Paris, Dinas Efrog Newydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym Mawrth 2021, roedd 191 aelod o'r UNFCCC yn bartïon i'r cytundeb. Tynnodd yr Unol Daleithiau yn ôl o'r cytundeb yn 2020, ond ailymunodd yn 2021. O'r chwe aelod-wladwriaeth UNFCCC nad ydyn nhw wedi cadarnhau'r cytundeb, yr unig allyrwyr mawr yw Iran, Irac a Thwrci, er bod Arlywydd Irac wedi cymeradwyo.
Nod hirdymor Cytundeb Paris yw cadw'r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang o dan 2 °C (3.6 °F) hynny yw, uwchlaw'r lefelau cyn-ddiwydiannol; ac i fynd ar drywydd ymdrechion i gyfyngu'r cynnydd i 1.5 °C (2.7 °F), gan gydnabod y byddai hyn yn lleihau risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn sylweddol. Dylid gwneud hyn trwy leihau allyriadau cyn gynted â phosibl, er mwyn "sicrhau cydbwysedd rhwng allyriadau anthropogenig gan ffynonellau a symudiadau gan sinciau yn ail hanner y 21g. Mae hefyd yn anelu at gynorthwyo partïon i addasu i effeithiau andwyol newid hinsawdd, a gwneud "cyllid sy'n sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr isel a datblygiad sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd."
O dan Gytundeb Paris, rhaid i bob gwlad bennu, cynllunio ac adrodd yn rheolaidd ar y cyfraniad y mae'n ei wneud i liniaru cynhesu byd-eang. Nid oes unrhyw fecanwaith yn gorfodi gwlad i osod targedau allyriadau penodol erbyn dyddiad penodol, ond dylai pob targed fynd y tu hwnt i dargedau a osodwyd yn flaenorol. Mewn cyferbyniad â Phrotocol Kyoto 1997, mae'r gwahaniaeth rhwng gwledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu yn aneglur, fel bod yn rhaid i'r olaf hefyd gyflwyno cynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau.