Defnyddiwr:Corgimwch/Bioleg esblygiadol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Adran o fywydeg yw bioleg esblygiadol sy'n ymdrin â sut mae esblygiad, drwy brosesau fel detholiad naturiol wedi arwain o un hynafiad cyffredin at yr ystod o fywyd ar y Ddaear heddiw
Dechreuodd bioleg esblygiadol ddatblygu fel maes penodol yn dilyn gwaith Julian Huxley a'i gyfoedion ar glymu detholiad naturiol, amrywiaeth genetig a gwaith Gregor Mendel ar etifeddiaeth genetig i ffurfio'r cyfuniad modern yn y 1930au.[1]
Bellach, mae'r maes wedi helaethu i gynnwys astudiaethau ar ffurfiannau genetig ymaddasiad, esblygiad moleciwlaidd a'r gwahanol rymoedd sy'n cyfrannu at esblygiad y tu hwnt i ddetholiad naturiol, gan gynnwys detholiad rhywiol, drifft genetig a bioddaearyddiaeth.[2][3]