Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Swffragét
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Swffragetiaid yn aelodau o fudiad merched yn niwedd yr 19g a dechrau'r 20g a oedd yn hyrwyddo 'etholfraint', neu'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Cyfeiria'n benodol at aelodau megis Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU).
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
LLGC | |
Ennill y Bleidlais i Ferched yng Nghymru | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Cysylltir y term swffragét yn benodol gydag ymgyrchwyr o'r WSPU Prydeinig, a'u harweinydd Emmeline Pankhurst, a ddaeth dan ddylanwad dulliau Rwsiaidd o brotestio e.e. ymprydio. Er i Ynys Manaw ganiatáu merched oedd yn berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1881, Seland Newydd oedd y wlad hunan-lywodraethol gyntaf i ganiatáu hawl i bob menyw dros 21 oed bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1893.[1] Llwyddodd merched yn Ne Awstralia i gael yr un hawliau ac i gael yr hawl i gael eu hethol yn 1895.[2] Yn yr Unol Daleithiau, roedd gan ferched gwyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio yn Wyoming o 1896 ac yn Utah o 1870. Er hynny, yn 1903 nid oedd gan ferched ym Mhrydain yr hawl i bleidleisio a phenderfynodd Pankhurst bod rhaid i'r mudiad ddod yn radical a milwriaethus i fod yn effeithiol. Rhan o'r ymgyrchu oedd difrodi eiddo, ymprydio a charcharu, a pharhaodd hynny tan ddechrau'r rhyfel yn 1914.
Yn 1918 pasiwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl oedd yn rhoi’r hawl i ferched dros 30 oed ym Mhrydain bleidleisio, gydag amodau eiddo penodol, ac yn 1928 daeth hynny'n wir i bob menyw dros 21 oed.[3]