Iâr (ddof)
aderyn a gedwir ar gyfer ei wyau a'i chig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a gedwir ar gyfer ei wyau a'i chig yw'r iâr ddof neu gywen (Gallus gallus, weithiau G. gallus domesticus).
Iâr (ddof)
Amrediad amseryddol: Cretacaidd cynnar– Holosen 105–0 Miliwn o fl. CP [1] | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasanidae |
Genws: | Gallus |
Rhywogaeth: | G. gallus |
Enw deuenwol | |
Gallus gallus (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Gallus gallus domesticus |
Credir ei fod wedi datblygu o ddwy rywogaeth o iâr wyllt a geir yn India a De-ddwyrain Asia, Ceiliog coedwig coch (Gallus gallus) a'r Ceiliog coedwig llwyd (Gallus sonneratii). Dim ond y fenyw sy'n "iâr" mewn gwirionedd, tra cyfeirir at y gwryw fel "ceiliog", ond cedwir llawer mwy o'r ieir nag o geiliogod. Yn gyffredinol, gelwir ieir a cheiliogod yn ieir.
Mae'r adar hyn yn perthyn i un o ddwy urdd, o ran dosbarthiad gwyddonol: ieir y tir (Galliformes) a ieir ddŵr(Anseriformes). Mae'r astudiaeth ddiweddaraf o'u hanatomeg a'u genynnau'n dangos fod y ddau fath yn perthyn yn agos iawn at ei gilydd. Gyda'i gilydd, mae'r ddwy urdd yn creu cytras (clade): Galloanserae, a arferid ei galw'n 'Galloanseri' ac yn 'retrotransposon'.[2] Cefnogir y cytras hwn hefyd gan ddata dilyniant DNA a morffolegol.[3][4]
Mae'r iâr yn un o'r anifeiliaid dof mwyaf niferus, gyda tua 24 biliwn yn cael eu cadw trwy'r byd.
Ceir nifer o hen bennillion a chaneuon traddodiadol sy'n cyfeirio ati:
- Mae gen i iâr a cheiliog
- A brynais ar ddydd Iau,
- Mae'r iâr yn dodwy ŵy bob dydd
- A'r ceiliog yn dodwy dau.
- Hen iâr fach bert yw fy iâr fach i
- Un pinc a melyn a choch a du,
- Fe aeth i'r cwt i ddodwy wy
- Ond cododd ei chwt-cwt-cwt ac i ffwrdd â hi.