Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958 oedd y chweched tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caerdydd, Cymru oedd cartref y Gemau rhwng 8–26 Gorffennaf ond cafodd cystadlaethau rhwyfo'r Gemau eu cynnal ar Lyn Padarn, Llanberis a chynhaliwyd y cystadlaethau codi pwysau yn Y Barri.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1958 |
Dechreuwyd | 18 Gorffennaf 1958 |
Daeth i ben | 26 Gorffennaf 1958 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Caerdydd |
Yn cynnwys | rowing at the 1958 British Empire and Commonwealth Games |
Rhanbarth | Caerdydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ffeithiau sydyn 6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad, Campau ...
6ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 94 | ||
Seremoni agoriadol | 18 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 26 Gorffennaf | ||
|
Cau
Gyda 1,358 o athletwyr a swyddogion o 35 o wledydd, dyma oedd y Gemau mwyaf hyd yma gyda 10 o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf. Hefyd cyflwynwyd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines am y tro cyntaf, arferiad cyn pob un o'r Gemau ers 1958.
Dyma oedd ymddangosiad olaf De Affrica yn y Gemau hyd nes diwedd cyfnod apartheid wedi i'r wlad dynnu allan o'r Gymanwlad ym 1961.