Mòd Genedlaethol yr Alban
Gŵyl flynyddol genedlaethol ar gyfer diwylliant a cherddoriaeth iaith Gaeleg yr Alban. Yn debyg i Eisteddfod Genedlaethol Cymru. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gŵyl Geltaidd ryngwladol wedi’i hysbrydoli gan yr Eisteddfod sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth, cerddoriaeth draddodiadol a diwylliant Gaeleg yr Alban yw’r Mòd Cenedlaethol Brenhinol a gynhelir yn flynyddol yn yr Alban. Mae'r Mòd, fel digwyddiad gerddorol a diwylliannol yn un hen a byw. Fel yng Nghymru lle ceir eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad, felly hefyd yn yr Alban lle ceir amrywiaeth eang o Mòdau lleol. Serch hynny, y Mòd Genedlaethol yw'r brif Mòd ac, fel y cyfeirid ar yr Eisteddfod Genedlaethol fel 'yr Eisteddfod', felly'n am cyfeirir at y Mòd i olygu'r digwyddiad blynyddol genedlaethol. Bu iddo ddylanwadu ar sefydlu gŵyl Oireachtas na Gaeilge yn Iwerddon yn 1897.
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl |
---|---|
Lleoliad | Aberdeen, Airdrie, Aviemore, Ayr, Blairgowrie, Dingwall, Dundee, Dunoon, East Kilbride, Caeredin, Falkirk, Fort William, Glasgow, Golspie, Greenock, Inverness, Largs, Lochaber, Motherwell, Oban, Paisley, Perth, Rothesay, An t-Eilean Sgitheanach, Skye and Lochalsh, Stirling, Steòrnabhagh, Thurso, Ynysoedd Allanol Heledd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae’r Mòd yn cael ei redeg gan An Comunn Gàidhealach (Y Gymdeithas Aeleg) ac mae’n cynnwys cystadlaethau a gwobrau.