Meráng
From Wikipedia, the free encyclopedia
Melysfwyd a wneir drwy gymysgu gwynnwy wedi'i guro â siwgr a'i grasu'n grimp yw meráng.[1] Câi'r cymysgedd ei beipio ar astell bobi drwy fag crwst a'i sychu mewn ffwrn ar wres isel. Gan amlaf maent yn cadw lliw gwyn fel ifori, ac nid yn cael eu brownio.[2]
Ffeithiau sydyn Math, Deunydd ...
Math | melysion, cynhwysyn coginio a chrasu |
---|---|
Deunydd | gwynnwy wedi'i guro, siwgr |
Yn cynnwys | gwynnwy wedi'i guro, siwgr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Bwyteir merángs gyda ffrwythau, hufen iâ, pwdinau ac ati. Gellir hefyd bwyta merángs bychain yn debyg i felysion fel cisys. Dywed i deisennwr o'r Swistir o'r enw Gasparini ddyfeisio'r meráng ym 1720.[2]