Y Môr Du
y môr rhwng Ewrop ac Asia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Môr sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain Ewrop ac Asia Leiaf ydy'r Môr Du (Pontus Euxinus y Groegiaid). Mae'n cysylltu â'r Môr Canoldir trwy gulfor Bosporus a Môr Marmara, ac â Môr Azov trwy Gulfor Kerch.
Math | môr mewndirol, basn draenio |
---|---|
Enwyd ar ôl | du |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, Ardal Môr Canoldir |
Gwlad | Bwlgaria, Rwsia, Wcráin, Rwmania, Twrci, Georgia, Gweriniaeth Abchasia |
Arwynebedd | 436,402 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea, Bwlgaria |
Cyfesurynnau | 43.41°N 34.26°E |
Hyd | 1,175 cilometr |
Trwy'r Bosporus mae 200 km² o ddŵr hallt yn llifo i mewn i'r Môr Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o ddŵr ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Môr Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Môr Du yw Afon Donaw. Maint arwynebedd y Môr Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.
Y gwledydd o gwmpas y Môr Du yw Twrci, Bwlgaria, Rwmania, Wcrain, Rwsia a Georgia. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcrain yw'r Crimea.
Mae'r dinasoedd mwyaf ar arfordir y Môr Du yn cynnwys Istanbul (Caergystennin neu Byzantium gynt), Burgas, Varna, Constanta, Tulcea, Yalta, Odessa, Sevastopol, Batumi, Trabzon, Samsun a Zonguldak.