Oes y Tywysogion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Oes y Tywysogion yw'r enw a arferir i ddynodi'r cyfnod yn hanes Cymru sy'n ymestyn o 1066, pan gyrhaeddodd y Normaniaid, i gwymp Tywysogaeth Gwynedd i goron Lloegr yn 1284.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Yn cynnwys ...
Map o raniadau tirol Cymru yn y cyfnod yn cynnwys; teyrnas, cantref, cwmwd | |
Enghraifft o'r canlynol | Cyfnod hanesyddol |
---|---|
Yn cynnwys | Hanes canoloesol Cymru, gan gynnwys hanes tywysogion Gwynedd, Deheubarth, Powys a Morgannwg |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cau
Roedd concro neu orchfygu Cymru yn broses araf. Goresgynnodd y Normaniaid ddwyrain Cymru am y tro cyntaf tua diwedd yr 11g. Dros gyfnod o 200 o flynyddoedd, llwyddodd arglwyddi Seisnig, yn raddol, i gymryd rheolaeth dros ddwyrain a de Cymru. Gelwid yr arglwyddi Seisnig hyn yn arglwyddi’r mers. Yn ystod y cyfnod hwn, bu llawer o frwydrau rhwng tywysogion Cymru ac arglwyddi’r mers.
Roedd tri prif reswm pam y cymerodd dros 200 mlynedd i orchfygu Cymru;
- Roedd llawer o deyrnasoedd bychan yng Nghymru. Dim ond darnau bach o Gymru y gallai’r Saeson eu gorchfygu ar y tro.
- Roedd y Cymry’n defnyddio tacteg o’r enw herwryfela neu ryfela gerila. Roedd hyn yn golygu llawer o ymosodiadau bach yn hytrach nag un frwydr fawr. Yn aml, byddent yn ymosod ac yna’n rhedeg i ffwrdd.
- Roedd yn anodd i’r Saeson deithio’n gyflym trwy Gymru oherwydd y mynyddoedd a’r coedwigoedd. Roedd y mynyddoedd a’r coedwigoedd mawr yn golygu bod gan y Cymry rywle i guddio hefyd.