Pensaernïaeth y Dadeni
arddull bensaernïol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arddull clasuraidd o bensaernïaeth a flodeuai yn Ewrop o'r 15g i'r 16g, fel rhan o gyfnod y Dadeni Dysg, yw pensaernïaeth y Dadeni. Fe'i rhagflaenwyd yn hanes pensaernïaeth gan y cyfnod Gothig, a fe'i olynwyd gan y Baróc. Yn ystod y Dadeni, ailddarganfuwyd celfyddydau'r hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid gan yr Ewropeaid, ac efelychwyd hyn yn arddulliau pensaernïol yr oes, yn bennaf oll ar sail trefn a chymesuredd. Daeth gwybodaeth penseiri'r Dadeni am bensaernïaeth glasurol o olion yr adeiladau hynafol, ac o'r Rhufeiniwr Vitruvius (a flodeuai yn y 1g CC), awdur y traethawd De architectura. Cafwyd adfywiad mewn ffurfiau Rhufeinig gan gynnwys y golofn, y bwa crwn, y fowt faril, a'r gromen. Bellach, cafodd y pensaer ei ystyried yn greawdwr yr adeilad, yn hytrach na'r adeiladwyr.
Cychwynnodd yn Fflorens, un o ganolfannau'r adfywiad clasurol yn yr Eidal, ar ddechrau'r 15g, ac yn aml dywed taw cromen Eglwys Gadeiriol Fflorens, a ddyluniwyd gan Filippo Brunelleschi (1377–1446), sy'n nodi dechreuad pensaernïaeth y Dadeni. Hon oedd y gromen gyntaf o'i math i'w chodi ers yr oes glasurol, a chydnabyddir Brunelleschi fel y peiriannydd, cynlluniwr, a phen-arolygydd adeiladu modern cyntaf yn y Gorllewin. Prif ddamcaniaethwr pensaernïol y cyfnod oedd Leon Battista Alberti (1404–72), a ysgrifennodd ei draethawd De re aedificatoria (1452) ar sail syniadaeth yr hen Vitruvius. Cynlluniodd Alberti hefyd nifer o adeiladau, gan gynnwys y Palazzo Rucellai yn Fflorens a Basilica Sant'Andrea ym Mantova. Ail-fodelodd hefyd, yn yr arddull clasurol, y tu allan i Tempio Malatestiano yn Rimini. O Fflorens, lledaenodd arddulliau cynnar y Dadeni i ddinasoedd eraill yr Eidal erbyn diwedd y 15g. Dygwyd pensaernïaeth yr Uchel Ddadeni (tua 1500–20) i'r amlwg gan Donato Bramante (1444–1514) yn Rhufain gyda gogoniant Basilica Sant Pedr a'r Tempietto yn Chiesa di San Pietro in Montorio. Nodweddir Darddulliaeth y Dadeni diweddar (tua 1520–1600) gan dro at gymhlethdod a newyddwch yn hytrach na chytgord a threfn glasuraidd yr Uchel Ddadeni.[1] Yn y cyfnod diweddar ysgrifennwyd llu o draethodau ar bwnc damcaniaeth gan benseiri megis Sebastiano Serlio (1474–1554), Giacomo da Vignola (1507–73), ac Andrea Palladio (1508–80).