Pierre-Auguste Renoir
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd Ffrengig oedd Pierre-Auguste Renoir (25 Chwefror 1841 – 3 Rhagfyr 1919). Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Pierre-Auguste Renoir | |
---|---|
Ganwyd | 25 Chwefror 1841 Limoges |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1919 Cagnes-sur-Mer |
Man preswyl | Limoges, Paris, Cagnes-sur-Mer |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, darlunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon, arlunydd graffig, porcelain painter |
Adnabyddus am | Young Girls in Black, Two Sisters, La loge, Luncheon of the Boating Party, La Grenouillère |
Arddull | portread (paentiad), noethlun, paentiad mytholegol, celf tirlun, animal art, figure, celf genre, celf y môr, portread, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd |
Mudiad | Argraffiadaeth |
Priod | Aline Renoir |
Partner | Lise Tréhot, Frédérique Vallet-Bisson |
Plant | Pierre Renoir, Jean Renoir, Claude Renoir, Lucienne Bisson, Jeanne Tréhot |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Commandeur de la Légion d'honneur |
llofnod | |
Cau
Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.
Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885–1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894–1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901–69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre.