Radio Breizh
rhwydwaith a phlatfform ar gyfer gorsafoedd radio lleol iaith Llydaweg. Gelwid yn flaenorol yn 'Brudañ ha Skignañ'. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Radio Breizh (a enwyd yn flaenorol yn Brudañ ha Skignañ) yn gorff sy’n dwyn ynghyd gorsafoedd radio Llydaweg neu ddwyieithog yn Llydaw. Daw hyn yn rannol yn sgîl nad oes yna orsaf radio genedlaethol wladwriaethol, fel BBC Radio Cymru neu Euskal Irratia gan Lydaw oherwydd gwrthwynebiad a diffyg ewyllus gwladwriaeth Ffrainc. Mae'n debycach i blatfform sy'n fan canolog a chyswllt i'r wahanol orsafoedd.
Peidied drysu â Radio France Blue Breizh Izel.