Radio Glangwili
gwasanaeth radio / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gorsaf Radio Ysbyty Cyffredinol Caerfyrddin yw Radio Glangwili. Rhedir yr orsaf gan wirfoddolwyr lleol. Mae'r orsaf yn darlledu ar 87.7FM o gwmpas Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Math | cwmni |
---|---|
Math o fusnes | cwmni |
Sefydlwyd | 1972 |
Sefydlydd | Sulwyn Thomas |
Pencadlys | Caerfyrddin |
Yn 1971, fe arbrofodd tîm o aelodau Urdd Gobaith Cymru, a arweinwyd gan Lywydd presennol Radio Glangwili, Sulwyn Thomas yn defnyddio trolîau ffôn yr ysbyty a milltiroedd o geblau yn rhedeg i mewn ac allan o'r wardiau, er mwyn cael cyfweliadau nôl i'r stiwdio ac yna allan yn fyw i ochrau gweliau'r cleifion. Dilynwyd hyn gan gyfres o raglenni wedi'u tapio a pherswadiwyd pawb fod angen trefniant mwy parhaol ar Radio Glangwili. Fe wnaeth yr ysbyty a chyfeillion yr ysbyty gefnogi'r syniad ac fe wnaeth y gymdeithas roi £75 er mwyn prynu offer newydd.
Ar Ddydd Nadolig 1972, aeth Radio Glangwili yn fyw ar yr awyr gyda'i darllediad swyddogol cyntaf i gleifion a staff Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Darlledu o ystafell, a adnabuwyd fel "y cwpwrdd ysgubellau" a leolwyd yn agos i ward Teifi. Roedd y rhaglen gyntaf 2 awr yma yn cynnwys cyfweliadau a cheisiadau gyda chleifion trwy'r ysbyty.