Rasa Polikevičiūtė
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwraig rasio proffesiynol Lithwaniaidd ydy Rasa Polikevičiūtė (ganwyd 25 Medi 1970, Panevėžys, Lithwania). Roedd hi'n un o res hir o seiclwreig Lithwaniaidd a helpodd sefydlu Lithwania fel un o'r gwledydd cryfan ym myd seiclo merched yn y 1990au, a hyd heddiw. Mae ei gefaill, Jolanta, hefyd yn seiclwraig rasio.
Ffeithiau sydyn Gwybodaeth bersonol, Enw llawn ...
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Rasa Polikevičiūtė |
Dyddiad geni | (1970-09-25) 25 Medi 1970 (52 oed) |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd Pencapwr Cenedlaethol | |
Golygwyd ddiwethaf ar 28 Medi, 2007 |
Cau
Dechreuodd seiclo yn 13 oed, wedi ei hysbrydoli gan ei hyfforddwr athletau, a throdd yn broffesiynol yn 1990. Yn ystod ei gyrfa mae wedi dysgu sawl iaith heblaw ei Mamiaith, Lithwaneg, mae hefyd yn siarad Rwsieg, Eidaleg a Ffrangeg.