Greatest Hits Radio South Wales
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gorsaf radio ar gyfer Abertawe a de-orllewin Cymru yw Greatest Hits Radio South Wales (gynt Swansea Sound neu Sain Abertawe).
Greatest Hits Radio South Wales | |
Ardal Ddarlledu | De-orllewin Cymru |
Dyddiad Cychwyn | 30 Medi 1974 |
Arwyddair | Calon De-orllewin Cymru |
Amledd | 1170MW DAB |
Pencadlys | Tre-gwŷr |
Perchennog | Bauer Media |
Gwefan | planetradio.co.uk |
Gorsaf radio masnachol hynaf Cymru ydyw a dechreuodd ddarlledu ar 95.1 FM ac ar 257 metr ym 1974 o'i stiwdio yn nhref Tre-gŵyr, Abertawe.
Bellach y mae'n bosib ei chlywed ar 1170 y donfedd ganol (257 metr gynt), ar radio digidol DAB Abertawe ac arlein. Peidiodd a ddarlledu ar FM ym 1995 wrth i'r orsaf ddilyn tuedd y cyfnod i rannu'r donfedd ganol ac FM yn ddwy orsaf, a sefydlu 96.4FM The Wave o ganlyniad sy'n darlledu o'r un adeilad yn Nhre-gŵyr.
Pwyslais yr orsaf yw ei bod yn 'Galon De-orllewin Cymru', statws a fagwyd yn ystod ei chyfnod hir o wasanaethu'r ardal, sy'n cynnwys de Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a rhannau o Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont Ar Ogwr.
Mae'r cwmni bellach yn rhan o gwmni Bauer. Newidiodd ei enw ym mis Medi 2020 i ddod yn rhan o rwydwaith "Greatest Hits Radio".[1]
Mae ganddi amryw o raglenni Cymraeg rhwng 10 a hanner nos yn ystod yr wythnos sy'n cynnwys newyddion, cerddoriaeth a sgwrs i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn y Saesneg.