Saitama
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Japan yw Saitama (Japaneg:さいたま市 Saitama-shi), prifddinas talaith Saitama a 10fed dinas fwyaf Japan o ran poblogaeth. Gan ei bod wedi ei lleoli o fewn Ardal Tokyo Fwyaf tua 30 kilometr i'r gogledd o ganol Tokyo mae cyfran fawr o'i phobl yn cymudo i Tokyo. Wedi ei ffurfio ar 1 Mai 2001 a'i dynodi ar 1 Ebrill 2003, mae Saitama yn enghraifft o ddinas dynodedig yn Japan a ddynodwyd trwy ordinhad llywodraeth sydd yn cael eu ffurfio drwy uno trefi a phentrefi cyfagos sydd a phoblogaeth o dros 500,000. Yn wahanol i ran fwyaf o ddinasoedd Japan, ysgrifennir enw'r ddinas gan ddefnyddio'r hiragana, er mai dyma oedd ail ddewis mwyaf poblogaidd gan y cyhoedd mewn pleidlais i ddewis enw newydd y ddinas. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd y ffordd draddodiadol o ysgrifennu enw'r ddinas, hynny yw trwy ddefnyddio kanji (埼玉市) fel enw'r dalaith.
Math | dinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, satellite city, dinas fawr, dinas Japan, city for international conferences and tourism, educational town |
---|---|
Enwyd ar ôl | Saitama |
Prifddinas | Urawa-ku |
Poblogaeth | 1,325,843 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Yume no Machi |
Pennaeth llywodraeth | Hayato Shimizu |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Saitama |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 217.43 km² |
Gerllaw | Afon Arakawa, Q28693338, Afon Shiba, Afon Kamo |
Yn ffinio gyda | Ageo, Kawaguchi, Asaka, Kawagoe, Shiki, Toda, Hasuda, Fujimi, Warabi, Kasukabe, Koshigaya, Shiraoka |
Cyfesurynnau | 35.8614°N 139.6456°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Saitama |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Saitama |
Pennaeth y Llywodraeth | Hayato Shimizu |
- Erthygl ynglŷn â'r ddinas yw hon. Am dalaith Saitama, gweler Saitama (talaith).