Sant Padrig
nawddsant Iwerddon a Nigeria, a anwyd yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Nawddsant Iwerddon a chenhadwr oedd Sant Padrig (bu farw 17 Mawrth yn ôl traddodiad, yn bosibl yn 493). Mae'n nawddsant Nigeria, a Gwlad yr Iâ hefyd. Dethlir Gŵyl Sant Padrig ar 17 Mawrth bob blwyddyn.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Sant Padrig | |
---|---|
Ganwyd | 4 g Britannia |
Bu farw | 5 g Saul |
Galwedigaeth | offeiriad, ffermwr, cenhadwr, ysgrifennwr |
Swydd | Esgob Catholig Ard Mhacha, esgob emeritws |
Dydd gŵyl | 17 Mawrth, March 17 |
Tad | Calpornius |
Mam | Conchesa |
Cau
Nid oes sicrwydd ble y cafodd ei eni er fod yna draddodiad mai Cymro oedd. Yn ôl un traddodiad ym Manwen yng Nghwm Nedd y cafodd ei eni. Mae'n debyg iddo gael ei ddwyn fel caethwas i Iwerddon. Llwyddodd i ddianc o Iwerddon ond mewn blynyddoedd clywodd leisiau yn galw arno i fynd yn ôl i Iwerddon fel cenhadwr.