UTV
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae UTV (Ulster Television PLC gynt) yn gwmni darlledu wedi'i leoli yn Belfast, Gogledd yr Iwerddon. Ei brif busnes yw masnachfraint ITV (Sianel 3) ar gyfer gogledd yr Iwerddon ac yn berchen hefyd ar UTV Radio sy'n rheoli orsaf radio fasnachol genedlaethol talkSPORT, ynghyd â 18 o orsafoedd radio lleol yn y Deyrnas Unedig a 5 yng Ngweriniaeth yr Iwerddon. UTV oedd y darlledwr brodorol cyntaf yn yr Iwerddon sydd bellach ar gael i 80% o boblogaeth yr ynys, gyda 98% yn y Gogledd a 70% yn y Weriniaeth.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Math | darlledwr |
---|---|
Sefydlwyd | 1959 |
Perchnogion | ITV plc |
Rhiant-gwmni | ITV |
Gwefan | http://www.u.tv |
Cau