Wicipedia:Ar y dydd hwn/Mai
From Wikipedia, the free encyclopedia
1 Mai: Calan Mai, Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, Gŵyl mabsant Asaph a Briog
- 1707 (317 blynedd yn ôl) – pasiwyd Deddf Uno teyrnasoedd yr Alban a Lloegr
- 1869 (155 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd papur newydd y Western Mail am y tro cyntaf
- 1893 (131 blynedd yn ôl) – agorwyd Ffair y Byd yn Chicago, UDA, yn dathlu 400-mlwyddiant glaniad Columbus yn yr Amerig; ymhlith yr atyniadau roedd eisteddfod
- 1931 (93 blynedd yn ôl) – yn Efrog Newydd, agorwyd Adeilad Empire State, adeilad tala'r byd ar y pryd
- 1821 (203 blynedd yn ôl) – bu farw Hester Thrale, ffrind a gohebydd Samuel Johnson, ac un o ddisgynyddion Catrin o Ferain.
- 1867 (157 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Eifion Wyn ('Gwn ei ddyfod fis y mêl...')
- 1880 (144 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd I. D. Hooson yn Rhosllanerchrugog
- 1996 (28 blynedd yn ôl) – estynwyd Rheilffordd Llangollen i Garrog
- 1230 (794 blynedd yn ôl) – crogwyd Gwilym Brewys am ei garwriaeth â'r dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr
- 1469 (555 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd gwleidyddol Niccolò Machiavelli yn Fflorens, yr Eidal
- 1950 (74 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores Mary Hopkin ym Mhontardawe
- 2007 (17 blynedd yn ôl) – diflannodd Madeleine McCann, y ferch 3-oed, tra ar ei gwyliau ym Mhortiwgal.
- 1904 (120 blynedd yn ôl) – cyfarfu Charles Rolls, o Drefynwy, â Henry Royce am y tro cyntaf
- 1926 (98 blynedd yn ôl) – parlyswyd gwledydd Prydain am naw diwrnod gan Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actores Audrey Hepburn yng Ngwlad Belg
- 1980 (44 blynedd yn ôl) – bu farw'r gwladweinydd Iwgoslafaidd Josip Broz Tito
- 1990 (34 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a chyfarwyddwr ffilm John Ormond
- 1405 (619 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr Pwll Melyn yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr
- 1886 (138 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen
- 1920 (104 blynedd yn ôl) – ganed yr hanesydd Glanmor Williams yn Nowlais
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – bu farw'r gyrrwr Fformiwla 1 o Ruthun Tom Pryce mewn damwain yn Grand Prix De Affrica
- 1981 (43 blynedd yn ôl) – bu farw Bobby Sands, aelod o'r IRA, yng ngharchar y Long Kesh
- 2012 (12 blynedd yn ôl) – agorwyd Llwybr Arfordir Cymru
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – dinistriwyd llong awyr yr Hindenburg gan dân wrth iddi lanio yn New Jersey, UDA, gan ladd 36 o bobl
- 1954 (70 blynedd yn ôl) – yn Rhydychen, rhedodd Roger Bannister filltir mewn pedair munud namyn eiliad, gan dorri record y cyfnod
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – crogwyd Vivian Teed yng Ngharchar Abertawe, y tro olaf i'r gosb eithaf gael ei gweinyddu yng Nghymru
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – bu farw'r nofelydd Cymreig a ysgrifennai yn Saesneg, Jack Jones
- 1999 (25 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd yr etholiad cyntaf erioed ar gyfer aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban
- 1120 (904 blynedd yn ôl) – trosglwyddwyd creiriau'r sant Dyfrig o Ynys Enlli i Eglwys Gadeiriol Llandaf
- 1824 (200 blynedd yn ôl) – perfformiwyd 9fed Symffoni Ludwig van Beethoven am y tro cyntaf erioed, yn Fienna, prifddinas Awstria
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – suddwyd y llong Lusitania gan long danfor o'r Almaen
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – ganwyd y darlledwr Syr Huw Wheldon ym Mhrestatyn
- 2015 (9 mlynedd yn ôl) – Yr Alban yn ethol 56 Aelod Seneddol SNP yn yr Etholiad Cyffredinol.
8 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Groes Goch
- 1648 (376 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr Sain Ffagan, y frwydr fawr olaf i'w hymladd ar dir Cymru
- 1704 (320 blynedd yn ôl) – ganwyd a bedyddiwyd yr arwres drasig y Ferch o Gefn Ydfa
- 1874 (150 blynedd yn ôl) – bu farw'r Siartydd Zephaniah Williams yn Tasmania
- 1885 (139 blynedd yn ôl) – ganwyd yr hynafiaethydd Bob Owen, Croesor yn Llanfrothen
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – diwrnod cyhoeddi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop
- 1957 (67 blynedd yn ôl) – ganwyd Eddie Butler, ymgyrchydd dros annibyniaeth Cymru a newyddiadurwr
9 Mai: Diwrnod Ewrop, Diwrnod annibyniaeth Rwmania (1877), Gŵyl mabsant Melyd
- 1191 (833 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Abaty Tyndyrn
- 1805 (219 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd o Almaenwr Friedrich Schiller
- 1918 (106 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Kyffin Williams yn Llangefni
- 1956 (68 blynedd yn ôl) – cafodd Penrhyn Gŵyr ei ddynodi'n statudol fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yr ardal gyntaf o'i bath yn Ynysoedd Prydain.
- 1372 (652 blynedd yn ôl) – arwyddwyd cytundeb rhwng Owain Lawgoch a Siarl V, brenin Ffrainc.
- 1356 (668 blynedd yn ôl) – enillwyd Brwydr Poitiers gan y fyddin Seisnig gyda chymorth saethyddion Cymreig
- 1815 (209 blynedd yn ôl) – ganwyd John Nixon, peiriannydd, sylfaenydd y Glofa Navigation
- 1904 (120 blynedd yn ôl) – marw'r newyddiadurwr a'r fforiwr Henry Morton Stanley yn 63 oed
- 1940 (84 blynedd yn ôl) – cychwynodd y Frwydr dros Ffrainc
- 2020 (4 blynedd yn ôl) – deufis i fewn i'r pandemig Coronafirws, gwrthododd yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru slogan Boris Johnson "Stay Alert", gan fynd am "Arhoswch gartref" yn hytrach; dechrau'r gwahaniaethu rhwng y gwledydd.
11 Mai: Diwrnod annibyniaeth Lwcsembwrg (1867)
- 330 (1694 blynedd yn ôl) – gwnaed Caergystennin, Byzantion gynt, yn brifddinas newydd yr Ymerodraeth Rufeinig
- 1648 (376 blynedd yn ôl) – cipiwyd Castell Cas-gwent gan fyddin Oliver Cromwell
- 1839 (185 blynedd yn ôl) – bu farw John Harries, Cwrt-y-cadno, meddyg traddodiadol a "dewin"
- 1880 (144 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwleidydd David Davies, Barwn 1af Davies o Landinam
- 1894 (130 blynedd yn ôl) – bu farw John Roberts (Telynor Cymru)
12 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs
- 1884 (140 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr o wlad Tsiec, Bedřich Smetana
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – dienyddiwyd y gweriniaethwr Gwyddelig, James Connolly (Séamas Ó Conghaile) a Seán Mac Diarmada
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – symudwyd paentiadau gwerthfawr o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain i Chwarel Manod
- 1972 (52 blynedd yn ôl) – agorwyd Atomfa'r Wylfa ar Ynys Môn
- 1975 (49 blynedd yn ôl) – ganwyd y chwaraewr rygbi Jonah Lomu yn Auckland, Seland Newydd
- 1737 (287 blynedd yn ôl) – ganwyd y diwydiannwr Thomas Williams, Llanidan
- 1835 (189 blynedd yn ôl) – bu farw'r pensaer John Nash
- 1839 (185 blynedd yn ôl) – ymosodiad cyntaf Merched Beca, ar dollborth Efail-wen yn Sir Gaerfyrddin
- 1867 (157 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Frank Brangwyn yn Brugge, Gwlad Belg, i fam Gymreig a thad o dras Cymreig
- 1985 (39 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Iwan Rheon yng Nghaerfyrddin
- 1771 (253 blynedd yn ôl) – ganwyd y sosialydd Iwtopaidd Robert Owen yn y Drenewydd, Powys; tad y cysyniad o gymuned gyd-weithredol
- 1826 (198 blynedd yn ôl) – daeth 700 o Gymry at ei gilydd yn Rhyfel y Sais Bach, gan atal tirfeddiannwr o Swydd Lincoln rhag codi plasty yn Llangwyryfon
- 1888 (136 blynedd yn ôl) – ganwyd Nansi Richards, 'Telynores Maldwyn'
- 1928 (96 blynedd yn ôl) – ganwyd Che Guevara, chwyldroadwr
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actores Siân Phillips
- 1951 (73 blynedd yn ôl) – ailagorwyd Rheilffordd Talyllyn, y rheilffordd dreftadaeth gyntaf yn y byd.
15 Mai: Gŵyl mabsant Carannog a Diwrnod Nakba - i gofio am y diwrnod hwnnw yn 1948 pan gollodd y Palesteiniaid eu tir i Israel.
- 1782 (242 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Richard Wilson
- 1886 (138 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Americanaidd Emily Dickinson
- 1920 (104 blynedd yn ôl) – bu farw Owen Morgan Edwards yn Llanuwchllyn
- 1967 (57 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd fod Merched y Wawr yn fudiad annibynol
- 2002 (22 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd Casnewydd yn ddinas
- 1628 (396 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdur Ffrengig Charles Perrault
- 1831 (193 blynedd yn ôl) – ganwyd David Edward Hughes, dyfeisiwr y meicroffon, yng Nghorwen
- 1920 (104 blynedd yn ôl) – gwnaed Jeanne d'Arc yn santes gan y Pab Bened XV
- 1954 (70 blynedd yn ôl) – ganwyd y gofodwr o dras Gymreig Dafydd Williams yn Saskatoon, Saskatchewan, Canada
17 Mai: Diwrnod Cenedlaethol Norwy; Diwrnod Llenyddiaeth Galisia; Dydd Gŵyl Cathen
- 1510 (514 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd o Eidalwr Sandro Botticelli
- 1614 (410 blynedd yn ôl) – ordeiniwyd Rhys Prichard (y Ficer Prichard) yn Ganon Coleg Aberhonddu, awdur Canwyll y Cymry
- 1682 (342 blynedd yn ôl) – ganwyd Bartholomew Roberts ("Barti Ddu"), môr-leidr
- 1792 (232 blynedd yn ôl) – ffurfiwyd marchnad stoc Efrog Newydd ar Wall Street
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – ganwyd y digrifwr Paul Whitehouse yn y Rhondda
18 Mai: Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd
- 1048 (976 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Omar Khayyam
- 1872 (152 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd Bertrand Russell yn Nhryleg, Sir Fynwy
- 1899 (125 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd o Gwm Tawe: Gwenallt
- 1911 (113 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Gustav Mahler
- 1922 (102 blynedd yn ôl) – darlledwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd am y tro cyntaf
19 Mai: Dydd coffa Mustafa Kemal Atatürk yn Nhwrci a Malcolm X yn Unol Daleithiau America
- 1812 (212 blynedd yn ôl) – ganwyd yr Arglwyddes Charlotte Guest
- 1840 (184 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r offeiriad John Blackwell (Alun)
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyn-Brif Wenidog, William Ewart Gladstone, yng Nghastell Penarlâg
- 1914 (110 blynedd yn ôl) – pasiwyd Deddf Datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru
- 1956 (68 blynedd yn ôl) – estynwyd Rheilffordd Ffestiniog i Finffordd
- 2018 (6 blynedd yn ôl) – priodas Tywysog Harri o Loegr a'r actores Meghan Markle.
- Diwrnod Gwenyn y Byd
- Diwrnod annibyniaeth Ciwba (1902) a Dwyrain Timor (2002)
- 1731 (293 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Evan Evans (Ieuan Fardd)
- 1799 (225 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Ffrengig Honoré de Balzac
- 1880 (144 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Robert John Rowlands (Meuryn)
- 1944 (80 blynedd yn ôl) – Refferendwm Annibyniaeth Gwlad yr Iâ o Denmarc
- 1971 (53 blynedd yn ôl) – bu farw Waldo Williams yn 66 oed
- 1471 (553 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Albrecht Dürer yn Nürnberg, yr Almaen
- 1558 (466 blynedd yn ôl) – bu farw William Glyn, esgob Catholig olaf Bangor
- 1821 (203 blynedd yn ôl) – bu farw John Jones (Jac Glan-y-gors), awdur pamffledi gwleidyddol a bardd dychanol
- 1841 (183 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyfansoddwr a cherddor Joseph Parry ym Merthyr Tudful
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – glaniodd Charles Lindbergh ym Mharis, wedi iddo hedfan yn ddi-dor ar draws Cefnfor yr Iwerydd
22 Mai: Gŵyl mabsant Elen Luyddog
- 1859 (165 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Jonathan Ceredig Davies yn Llangynllo, Ceredigion
- 1885 (139 blynedd yn ôl) – bu farw'r llenor Ffrengig Victor Hugo
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – gyhoeddwyd y papur newydd Y Cymro am y tro cyntaf
- 1987 (37 blynedd yn ôl) – bu farw Keidrych Rhys, bardd a golygydd y cylchgrawn Wales
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – estynwyd Rheilffordd Talyllyn i Nant Gwernol
23 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Crwban
- 1120 (904 blynedd yn ôl) – ail-gladdwyd creiriau'r sant Dyfrig yng nghadeirlan Llandaf, ar ôl eu trosglwyddo o Ynys Enlli
- 1533 (491 blynedd yn ôl) – diddymwyd priodas Harri VIII, brenin Lloegr, a Chatrin o Aragon
- 1832 (192 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, y cwmni rheilffordd hyna'r byd sy'n dal i weithio
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – llosgwyd Pont Britannia ar ddamwain gan ddau fachgen
- 1981 (43 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores bop Gwenno Saunders yng Nghaerdydd
- 1995 (29 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd Caradog Jones gopa Mynydd Chomolungma (Everest): y Cymro cyntaf i wneud hynny.
- 1738 (286 blynedd yn ôl) – cafodd John Wesley droedigaeth, gan arwain at sefydlu'r Mudiad Methodistaidd.
- 1789 (235 blynedd yn ôl) – ganwyd y nyrs Betsi Cadwaladr yn Llanycil, Gwynedd
- 1798 (226 blynedd yn ôl) – dechrau Gwrthryfel Gwyddelig 1798
- 1941 (83 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerddor Bob Dylan
- 1901 (123 blynedd yn ôl) – 81 o ddynion yn marw yn dilyn ffrwydriadau yn Nhanchwa 1af Senghennydd
25 Mai: Diwrnod Affrica; Diwrnod annibyniaeth Gwlad Iorddonen (1946)
- 1735 (289 blynedd yn ôl) – troedigaeth Howel Harris, un o brif sylfaenwyr Methodistiaeth yng Nghymru
- 1784 (240 blynedd yn ôl) – ganwyd y Siartydd John Frost yng Nghasnewydd
- 1803 (221 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd o Americanwr Ralph Waldo Emerson
- 1865 (159 blynedd yn ôl) – cychwynodd llong y Mimosa ei thaith o Lerpwl i Batagonia gyda 153 o Gymru arni.
- 1986 (38 blynedd yn ôl) – ganwyd Geraint Thomas, seiclwr ac enillydd y Tour de France a nifer o fedalau aur Olympaidd
26 Mai: Gŵyl mabsant Ffagan; dyddiau annibyniaeth Georgia (1918) a Gaiana (1966)
- 735 (1289 blynedd yn ôl) – bu farw'r hanesydd Seisnig Beda
- 1897 (127 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd nofel Bram Stoker, Dracula
- 1923 (101 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd y ras geir 24 awr cyntaf yn Le Mans, gan ddechrau ar 26 Mai a gorffen y diwrnod wedyn
- 1986 (38 blynedd yn ôl) – mabwysiadwyd Baner Ewrop
- 1999 (25 blynedd yn ôl) – agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd Cymru bellach, yn yr adeilad a elwir heddiw'n Dŷ Hywel
- 1703 (321 blynedd yn ôl) – sefydlwyd dinas Saint Petersburg, Rwsia, gan y tsar Pedr Fawr
- 1903 (121 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd syrcas William Cody y Rhyl, sef syrcas yr enwog Buffalo Bill
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – agorwyd Pont Golden Gate, San Francisco, Unol Daleithiau America
- 1964 (60 blynedd yn ôl) – bu farw Jawaharlal Nehru, prif weinidog cyntaf India annibynnol
- 2009 (15 blynedd yn ôl) – bu farw Syr Clive W. J. Granger, ennillydd Gwobr Economeg Nobel, yn enedigol o Abertawe.
- 1865 (159 blynedd yn ôl) – hwyliodd llong y Mimosa o Lerpwl, yn cario'r fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymru i Wladfa Patagonia
- 1883 (141 blynedd yn ôl) – ganwyd y pensaer Clough Williams-Ellis, cynllunydd Portmeirion
- 1887 (137 blynedd yn ôl) – bu farw Dan Isaac Davies, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885)
- 1971 (53 blynedd yn ôl) – agorwyd Rheilffordd Llyn Padarn
- 470 (1554 blynedd yn ôl) – diwrnod Brad y Cyllyll Hirion, torrodd y Sacson Hengist ei air a lladdwyd 99 o Gymru
- 1593 (431 blynedd yn ôl) – crogwyd John Penry, merthyr Protestanaidd a fynnai bregethu yn Gymraeg
- 1660 (364 blynedd yn ôl) – esgynodd Siarl II i orsedd yr Alban, Iwerddon a Lloegr, gan adfer y frenhiniaeth yng ngwledydd Prydain ar ôl cyfnod o werinlywodraeth.
- 1913 (111 blynedd yn ôl) – perfformiwyd Le Sacre du printemps, ballet gan Igor Stravinsky, am y tro cyntaf
- 1953 (71 blynedd yn ôl) – dringodd Edmund Hillary a Tenzing Norgay i ben Chomolungma (Saesneg: Everest).
30 Mai: Gŵyl santes Jeanne d'Arc (Catholigiaeth)
- 1640 (384 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd o Fflandrys, Peter Paul Rubens
- 1869 (155 blynedd yn ôl) – ganwyd y diwynydd Thomas Rees yn Llanfyrnach, Sir Benfro
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Hugh Griffith ym Marianglas, Sir Fôn
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – yn Etholiad Cyffredinol 1929, etholwyd y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol Cymreig (Megan Lloyd George), safodd yr ymgeisiydd cyntaf ar gyfer Plaid Cymru (Lewis Valentine) ac etholwyd Aneurin Bevan yn AS.
- 2022 (2 flynedd yn ôl) – daeth y cyfyngiadau COVID-19 olaf yng Nghymru i ben.
- 1279 CC – gwnaed Ramesses II yn Pharo yr Aifft
- 1880 (144 blynedd yn ôl) – ganwyd y llenor Edward Tegla Davies (awdur Hunangofiant Tomi) yn Llanarmon-yn-Iâl ger Rhuthun
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Urdd Gobaith Cymru yng Nghorwen
- 2010 (14 blynedd yn ôl) – ymosododd Israel ar lynges ddyngarol ar ei ffordd i Gaza