Herwgipio merched ysgol Chibok, 2014
From Wikipedia, the free encyclopedia
Fin nos y 14–15 Ebrill 2014, herwgipiwyd 276 o ferched ifanc o ysgol uwchradd y wladwriaeth yn nhref Chibok, Nigeria.[1] Derbyniodd y grŵp Islamiaethol Boko Haram y cyfrifoldeb am y weithred; mae'r grŵp wedi'i sefydlu yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Rhieni'r merched a herwgipiwyd | |
Dyddiad | 15 Ebrill 2014 (2014-04-15) |
---|---|
Cyfesurynnau | 10.865833°N 12.846944°E / 10.865833; 12.846944 |
Canlyniad | 276 o fyfyrwyr benywaidd wedi'u cipio gan wrthryfelwyr terfysgaidd islamaidd |
Ar goll | 219 |
Drwgdybir | Boko Haram |
Ystyr yr enw Hausa 'Boko Haram' yw "Mae addysg Orllewinol yn bechod". Mae Boko Haram wedi targedu ysgolion ers 2010, gan ladd cannoedd o ddisgyblion. Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp y byddent yn parhau i weithredu fel hyn, hyd nes y rhydd Llywodraeth Nigeria'r gorau i "ymyrryd gyda hawl pobl i dderbyn addysg Islamaidd, draddodiadol". Oherwydd yr ymgyrch hon gan y terfysgwyr mae o leiaf 10,000 o bobl ifanc heb dderbyn addysg dros y blynyddoedd diwethaf.[2] Cred y terfysgwyr hefyd mai dim ond bechgyn ddylai dderbyn addysg, ac mai lle'r ferch yw bod adref yn coginio ac yn cael cyfathrach rywiol.[3]
Dwyshaodd yr ymosodiadau yn 2014. Yn Chwefror lladdwyd dros 100 o Gristnogion (dynion) ym mhentrefi Doron Baga a Izghe,[4] a lladdwyd 59 o fechgyn mewn coleg preswyl yng ngogledd-ddwyrain y wlad.[5] Ym mis Mawrth ymosodwyd ar wersyll milwrol Giwa gan ryddhau nifer o'u cyd-derfysgwyr, a lladdwyd 88.[4][6] Yn 2014, credid fod Boko Haram wedi lladd cyfanswm o 4,000 o bobl,[4] a'u bod yn derbyn hyfforddiant gan gangen o al-Qaeda,[7] sef Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd.