Sbectrosgopeg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y gangen o opteg sydd yn archwilio sbectra—yr hyn a fesurir ar y sbectrwm electromagnetig o ganlyniad i ryngweithiad rhwng ymbelydriad electromagnetic a mater—yw sbectrosgopeg[1] neu sbectrosgopi.[2] Defnyddir offeryn y sbectrosgop i fesur y sbectra fel ffwythiant o donfedd neu amledd yr ymbelydriad.[3][4][5][6][7][8] Gellir ystyried tonnau mater a thonnau acwstig hefyd yn ffurfiau ar egni ymbelydrol, ac yn ddiweddar câi tonnau disgyrchol eu cysylltu ag arwyddiant sbectrol yng nghyd-destun yr Arsyllfa Ton-Ddisgyrchol Ymyriadur Laser (LIGO). Mewn termau syml, astudiaeth fanwl o liw, wedi ei gyffredinoli o olau gweladwy i bob un band ar y sbectrwm electromagnetig.
Mae sbectrosgopeg yn ddull archwiliol sylfaenol mewn meysydd seryddiaeth, cemeg, gwyddor defnyddiau, a ffiseg, am iddi alluogi gwyddonwyr i astudio cyfansoddiad, strwythur ffisegol, a strwythur electronig mater ar raddfeydd atomig, moleciwlaidd, a macro, ac ar draws pellterau seryddol. Mae defnyddiau pwysig yn cynnwys sbectrosgopeg biomeddygol wrth ddadansoddi meinweoedd a delweddu meddygol.