Aberafan
tref a chymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Aberafan[1] (Saesneg: Aberavon).[2] Fe'i lleolir yng nghanol Port Talbot ar lan orllewinol Afon Afan. Roedd 5,452 o bobl yn byw yng nghymuned Aberafan yn 2011, 7.9% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Arwynebedd y gymuned yw 563 hectar. Saif y dref o fewn cymunedau Aberafan ei hun, Gorllewin Traethmelyn a Dwyrain Traethmelyn.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,452 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 224.95 ha |
Cyfesurynnau | 51.59943°N 3.80194°W |
Cod SYG | W04001019 |
Cod OS | SS752904 |
Cod post | SA12 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | David Rees (Llafur) |
AS/au | Stephen Kinnock (Llafur) |
Cau
- Mae'r erthygl hon am y dref. Am ystyron eraill, gwelwch Aberafan (gwahaniaethu).