Baner Iran
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae baner Iran, wedi newid sawl gwaith yn ystod hanes hir yr ymerodraeth ddaeth drachefn yn weriniaeth Islamaidd. Mabwysiadwyd y faner gyfredol yn swyddogol ar 29 Gorffennaf 1980.[1] Er ei fod yn cadw prif nodweddion yr hen faner o deyrnas frenhinol y Shah mae'n adlewyrchu'r newidiadau y Chwyldro Islamaidd bu yn Iran yn 1979.