Cerddoriaeth faróc
arddull cerddorol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arddull gerddorol a flodeuai yn Ewrop yn y cyfnod 1600–1750 yw cerddoriaeth faróc. Roedd yn rhan o'r mudiad ehangach yn y celfyddydau a elwir baróc. Ymhlith cyfansoddwyr baróc mae Johann Sebastian Bach a Monteverdi. Dyma'r cyfnod a welodd ddatblygiad yr opera, yr oratorio, y trio sonata a'r concerto grosso (gweler Arcangelo Corelli, er enghraifft). Nodweddai nifer o gyfansoddiadau baróc gan gymhlethdod harmonig a phwyslais ar wrthgyferbyniad.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | genre gerddorol, mudiad cerddorol |
---|---|
Math | cerddoriaeth glasurol, music of Europe |
Rhan o | Baróc |
Dechrau/Sefydlu | 1600 |
Rhagflaenwyd gan | cerddoriaeth y Dadeni |
Olynwyd gan | Cyfnod clasurol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau