Charlie Puth
cyfansoddwr a aned yn 1991 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Canwr Americanaidd yw Charles Otto Puth Jr (neu Charlie Puth) (ganwyd 2 Rhagfyr 1991). Mae hefyd yn gyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth. Daeth i amlygrwydd drwy lwyddiant firaol fideos o'i ganeuon a uwchlwythwyd i YouTube.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Label recordio ...
Charlie Puth | |
---|---|
Ganwyd | Charles Otto Puth Jr. 2 Rhagfyr 1991 Rumson, New Jersey |
Label recordio | Atlantic Records, eleveneleven |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | DJ producer, cyfansoddwr caneuon, trefnydd cerdd, cynhyrchydd YouTube, canwr, cerddor |
Adnabyddus am | Charlie, Voice Notes, Nine Track Mind |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B |
Math o lais | baritenor |
Prif ddylanwad | George Michael, James Taylor, Miles Davis, John Coltrane, Bill Evans, Babyface, Jimmy Jam, Terry Lewis, Teddy Riley, Bobby Brown, Ralph Tresvant, Steve Perry, diwylliant LHDT, Elton John, Bruno Mars, Jason Mraz, Stevie Wonder, John Mayer, Madonna, Nicki Minaj, Justin Bieber |
Taldra | 1.78 metr |
Tad | Charles Otto Puth Sr. |
Mam | Debra Puth |
Gwobr/au | Broadcast Film Critics Association Award for Best Song, Nickelodeon Kids' Choice Awards, Gwobrau Teen Choice, Billboard Music Award for Top Hot 100 Song, Billboard Music Award for Top Rap Song, Circle Chart Music Awards, Genie Music Awards, Gwobr People's Choice |
Gwefan | http://www.charlieputh.com/ |
llofnod | |
Cau
Rhyddhawyd "See You Again" fel cân cyntaf Puth yn 2015, cân a gyd-ysgrifennodd, cydgynhyrchodd ac a berfformiodd gyda Wiz Khalifa ar gyfer trac sain Furious 7 fel teyrnged i Paul Walker. Aerth i rif un ar Billboard Hot 100 yr Unol Daleithiau am 12 wythnos. Ar ôl llwyddiant "See You Again", enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang am lawer o weithiau pellach, gan gynnwys ei sengl gyntaf "Marvin Gaye", a oedd yn cynnwys Meghan Trainor, ac roedd ganddo ganeuon ar y siartiau yn Seland Newydd, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig.[1][2]