Culfor La Pérouse
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Culfor La Pérouse, neu Culfor Sōya, yn gulfor sydd yn gwahanu ynys ddeheuol Rwsiaidd Sakhalin (Karafuto) a rhan mwyaf gogledd o Saipan sef Ynys Hokkaidō, ac yn cysylltu Môr Japan yn y gorllewin gan Môr Okhotsk yn y dwyrain.
Mae'r culfor yn 42 km o hyd a 140m o ddyfnder. Mae rhan gulaf y culfor yn y gorllewin rhwng Rwsia ym Mhentir Krillion a Phentir Soia yn Siapan, sydd hefyd â'r dyfader mwyaf bas yn 60m yn unig.[1] Mae ynys bach creigiog a enwir yn Kamen Opasnosti (sydd yn enw priodol yn Rwsiaidd a olygir "Craig Beryglus") wedi ei leoli yn nyfroedd Rwsiaidd yng ngogledd-ddwyreiniol yr culfor, 12.8 km i'r de-ddwyrain o Bentir Krillion. Mae ynys bychain arall sef Bentenjima, yn gorwedd ger lannau Siapanëaidd y culfor.
Fe elwid y culfor ar ôl Jean-François de Galaup, comte de Lapérouse, a archwiliodd y culfor yn 1787.[2]
Mae dyfroedd tiriogaethol Siapan ymestyn i dair milltir forol i Gulfor La Porous yn unig, yn hytrach na'r deuddeg arferol, yn ôl pob deall i ganiatáu llongau rhyfel a llongau danforrol arfog niwclear Llynges yr Unol Daleithiau i tramwyo'r culfor heb darfu ar waharddiad Siapan ar arfau niwclear ar ei thiriogaeth.[3]