David Daniell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwr trac Seisnig ydy David Daniell (ganwyd 23 Rhagfyr 1989, Middlesbrough[1]). Mae'n aelod o Academi Olympaidd British Cycling, mae'n bencampwr iau'r byd am yr ail flwyddyn yn olynol.[2]
Ffeithiau sydyn Gwybodaeth bersonol, Enw llawn ...
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | David Daniell |
Dyddiad geni | (1989-12-23) 23 Rhagfyr 1989 (32 oed) |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Sbrint |
Tîm(au) Amatur | |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd Pencampwr Ewrop Pencampwr Cenedlaethol | |
Golygwyd ddiwethaf ar 16 Rhagfyr 2007 |
Cau
Dechreuodd Daniell seiclo ar ôl cael ei ganfod yn ei ysgol yng nghynllyn Go-Ride British Cycling.[3]
Nomineiddwyd Daniell ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Iau BBC yn 2006[4] ac enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn 11eg wobrau chwaraeon yr Evening Gazette yn 2007.[2]