Huw Edwards
Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro (ganwyd 1961) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiadurwr a chyflwynydd newyddion o Gymro yw Huw Edwards (ganwyd 18 Awst 1961).[1]
Huw Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 18 Awst 1961 Pen-y-bont ar Ogwr |
Man preswyl | Dulwich, Llangennech |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Tad | Hywel Teifi Edwards |
Priod | Vicky Flind |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Mae wedi cyflwyno nifer o brif raglenni newyddion ar rwydwaith Prydeinig y BBC yn ogystal a rhaglenni newyddion arbennig ar ddigwyddiadau gwladol a rhyngwladol. Bu'n brif gyflwynydd Newyddion y BBC am ddeg o'r gloch. Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio yng Nghymru - yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynodd sawl cyfres i BBC Cymru gan gynnwys The Story of Wales, The Wales Report, a'r rhaglen drafod materion cyfoes, The Exchange. Bu hefyd yn cyflwyno rhai o raglenni Bore Sul i BBC Radio Cymru.
Cyflwynodd nifer o raglenni ar S4C gan gynnwys Pawb a'i Farn a Dechrau Canu Dechrau Canmol. Yn 2021, i nodi ei ben-blwydd yn 60, darlledwyd rhaglen ddogfen arbennig amdano ar S4C.[2]
Ar 8 Medi 2022, cyhoeddodd Edwards farwolaeth Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, gan gyflwyno darllediadau newyddion treigl yn dilyn cyhoeddiad gan Balas Buckingham yn gynharach yn y dydd.[3] Cyflwynodd ddarllediadau'r BBC o angladd y Frenhines ar 19 Medi hefyd.[4]