Jackson Pollock
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd Americanaidd dylanwadol a phrif gymeriad yn y mudiad mynegiadol haniaethol oedd Paul Jackson Pollock (28 Ionawr 1912 – 11 Awst 1956). Adnabyddir am baentio arweithiol (Action Painting) y paent wedi'i daflu, arllwys, sblasio neu ddiferu dros gynfasau mawrion ar hyd y llawr.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Jackson Pollock | |
---|---|
Ganwyd | Paul Jackson Pollock 28 Ionawr 1912 Cody, Wyoming |
Bu farw | 11 Awst 1956 East Hampton, Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau |
Adnabyddus am | No. 5, 1948, Autumn Rhythm (Number 30), Blue Poles |
Arddull | celf haniaethol |
Mudiad | Mynegiadaeth Haniaethol, peintio gweithredol |
Priod | Lee Krasner |
llofnod | |
Cau
Bu'n dra enwog yn ystod ei fywyd, un o'r arlunwyr Americanaidd mwyaf adnabyddus ei genhedlaeth. Gyda phersonoliaeth ymfflamychol, fe frwydrodd yn erbyn alcoholiaeth ar hyd ei fywyd. Roedd yn briod â'r darlunydd haniaethol cydnabyddedig Lee Krasner a fu'n ddylanwad mawr arno.[1]
Bu farw Pollock yn 44 oed mewn damwain car, yn gyrru o dan ddylanwad alcohol.[2]