Llys Troseddau Rhyngwladol
Llys Troseddol Rhyngwladol Cyson / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad rhyng-lywodraethol a thribiwnlys ar gyfer y byd cyfan yw Llys Troseddau Rhyngwladol (Ffrangeg: Cour pénale internationale; Saesneg: International Criminal Court) (a adnabyddir hefyd gan y talfyriadau: ICC ac ICCt) ac sydd wedi'u sefydlu yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd. Caiff y Ffrangeg a'r Saesneg eu siarad yn gyfochrog ym mhob rhan o waith y mudiad.
Enghraifft o'r canlynol | llys rhyngwladol, sefydliad rhynglywodraethol |
---|---|
Label brodorol | International Criminal Court |
Dechrau/Sefydlu | 1 Gorffennaf 2002 |
Yn cynnwys | Prosecutor of the International Criminal Court, barnwr o'r Llys Troseddol Ryngwladol, President of the International Criminal Court |
Pennaeth y sefydliad | President of the International Criminal Court |
Aelod o'r canlynol | International Federation of Library Associations and Institutions |
Pencadlys | Den Haag |
Enw brodorol | International Criminal Court |
Gwladwriaeth | Yr Iseldiroedd |
Rhanbarth | Den Haag |
Gwefan | https://icc-cpi.int, https://www.icc-cpi.int/fr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gofal: ceir erthygl arall o'r enw Llys Barn Rhyngwladol; ceir hefyd sawl mudiad gyda'r talfyriad 'ICC'.
Defnyddir y talfyriad ICCt yn aml er mwyn gwahaniaethu rhwng y Llys Troseddau Rhyngwladol a nifer o gyrff gyda'r un talfyriad e.e. International Cricket Council neu'r International Control Commission.
Mae gan yr ICCt yr awdurdod i erlyn unigolion am droseddau:
- rhyngwladol sy'n ymwneud â hil-laddiad
- yn erbyn dynoliaeth a
- rhyfel
Ni fwriedir i'r ICCt fod yn ychwanegiad i'r system gyfreithiol ryngwladol, bresennol, ac felly dim ond ar rai adegau arbennig mae'n gweithredu; yr adegau hynny yw: pan fo llysoedd gwledydd y byd yn methu erlyn, neu ddim yn fodlon erlyn troseddwyr neu pan fo'r Cenhedloedd Unedig neu wladwriaethau unigol yn gofyn iddyn nhw erlyn.
Cychwynnodd y Llys Troseddau Rhyngwladol ar ei waith ar 1 Gorffennaf 2002, yr un adeg ag y daeth 'Ystatud Rhufain i rym. Mae Ystatud Rhufain yn gytundeb amlochrog sy'n gynsail i waith yr ICCt. Pan fo gwladwriaeth yn arwyddo Ystatud Rhufain, yna dônt yn aelodau o'r ICCt yn otomatig. Yn 2015 roedd 123 gwladwriaeth wedi arwyddo Ystatud Rhufain, ac felly'n aelodau o'r Llys Troseddau Rhyngwladol.[1]
Mae gan y Llys Troseddau Rhyngwladol bedair adran: y Llywyddiaeth, Adran Farnwrol, Adran Erlyniaeth a'r Cofrestrydd. Y Llywydd yw'r Prif Farnwr ac mae wedi'i ethol gan ei gydweithwyr yn yr Adran Farnwrol sef yr adran sy'n eistedd (neu'n cymryd y gwrandawiad) yn y Llys. Ymchwilio i'r troseddau mae Adran yr Erlynydd a hi hefyd sy'n agor yr achos. Gwaith Adran y Cofrestrydd yw gweinyddu gwaith y mudiad.