Marianne Vos
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwraig ffordd proffesiynol Iseldiraidd ydy Marianne Vos (ganwyd 13 Mai 1987). Mae wedi cael ei chymharu â Eddy Merckx fel "un o'r reidwyr gorau o'i chenhedlaeth".[1]
Ffeithiau sydyn Gwybodaeth bersonol, Enw llawn ...
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Marianne Vos |
Dyddiad geni | (1987-05-13) 13 Mai 1987 (36 oed) |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd, Cyclo-cross & Beicio Mynydd |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2006 2007 |
Team DSB-Ballast Nedam Team DSB Bank |
Prif gampau | |
Gemau Olympaidd, Ras bwyntiau 2008 Gemau Olympaidd, Ras ffordd 2012 Pencampwr y Byd, Rasio Ffordd 2006 Pencampwr y Byd, Cyclo-cross 2006, 2009, 2010, 2011, 2012 Pencampwr y Byd, Ras bwyntiau 2008 Pencampwr y Byd, Ras scratch 2011 Cwpan y Byd Ffordd (Merched) UCI 2007 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 21 Awst 2012 |
Cau
Ar ôl ennill pencampwriaethau Ewrop a'r byd ar y ffordd yn y categori Iau, aeth ymlaen i ennill Bencampwriaethau'r Byd ar y ffordd ac yn cyclo-cross yn ei blwyddyn cyntaf fel reidiwr hyn yn 19 oed. Aeth ymlaen i ddod yn bencampwraig y byd ar y trac yn ogystal wedi ennill y ras bwyntiau yn 2008 a'r ras scratch yn 2011. Enillodd y fedal aur yn y ras bwyntiau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 a'r ras ffordd yn 2012.