Metadata
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwybodaeth ar ffurf data sy'n ein goleuo mewn rhyw fodd a sy'n cysylltu â data arall yw metadata, h.y. data cysylltiedig.[1] Ceir gwahanol fathau o fetadata, gan gynnwys metadata disgrifiadol, metadata strwythurol, metadata gweinyddol, metadata cyfeiriol a metadata ystadegol.[2][3]
Daw'r rhagddodiad meta o'r Groeg μετά- sef "wedi" neu "ar ôl", ond o fewn gwybodeg gall olygu "ynglŷn â..." h.y. gellir diffinio metadata fel "data sy'n rhoi gwybodaeth ynglŷn â data arall; data am ddata.
- Metadata disgrifiadol - y ddau brif bwrpas i fetadata disgrifiadol yw darganfod ac adnabod e.e. allweddeiriau (keywords), enw'r awdur, testun disgrifiadol, dyddiadau geni.
- Metadata strwythurol - mae metadata strwythurol yn disgrifio cynwysyddion data, a sut y mae gwrthrychau cyfansawdd yn cysylltu â'i gilydd e.e. sut y mae tudalennau'n cael eu grwpio bob yn bennod.
- Metadata gweinyddol - mae metadata gweinyddol yn disgrifio mathau, fersiynau a pherthynas deunydd digidol.[4]
- Metadata gweinyddol - sy'n cynorthwyo'r gwaith o reoli'r adnodd, e.e. sut a pha bryd y cafodd ei greu, math o ffeil, gwybodaeth technegol tebyg a phwy sydd a'r hawl i gael mynediad iddo.[5]
- Metadata cyfeiriol - sy'n cyfeirio at gynnwys a dibynadwyedd y data ystadegol.
- Metadata ystadegol - gall hwn hefyd ddisgrifio'r prosesau sy'm casglu, yn prosesu neu'n cynhyrchu data. Gellir hefyd ei alw'n "brosesu data".[6]