Radio Kerne
Gorsaf radio iaith Lydaweg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Radio Kerne yn radio gymunedol iaith Llydaweg, a grëwyd yn 1998,[1] sy’n darlledu rhaglenni yn ardal Bro-Gerne sef, rhan dde-orllewinnol département Penn-ar-Bed, yn yr iaith Lydaweg yn unig. Mae'n darlledu ar dri amledd: 90.2 (Kemper), 92.0 (Douarnenez) a 97.5 (Konk-Kerne).
Agorwyd antena RNT newydd ym mis Gorffennaf 2019 yn Naoned,[2] yn dilyn dilysu'r prosiect gan y CSA ym mis Ionawr 2018.[3][4] Dyma'r unig gangen yn yr iaith Lydaweg yn département Loire-Atlantique. Yn 2021, creuwyd swydd newyddiadurwr yn Roazhon gyda'r bwriad o ddatblygu yn rhanbarth Bro-Roazhon.[5].