Raion
Tiriogaeth weidyddol sy'n bodoli mewn sawl gwlad cyn-Sofietaidd. Yn cyfateb yn fras i'r 'sir' yng Nghymru. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Raion, raïon, neu raiion (yn Rwsieg, Wcreineg a Bwlgareg: район; yn Belarwseg: раён; yn Rwmaneg: raion; yn Aserbaijaneg: rayon; yn Latfieg: rajons; yn Jorjeg: რაიონი) yw'r term a ddefnyddir mewn sawl gwladwriaeth yn hen floc comiwnyddol Dwyrain Ewrop i ddynodi dau fath o is-adran weinyddol: israniad tiriogaethol neu israniad dinas. Daw'r term o'r gair Ffrangeg "radius" a gymerwyd yn yr ystyr geometrig o'r brif dref.[1]. Gellid dweud ei fod yn cyfateb i sir yng Nghymru.