Rob Hayles
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwr rasio Seisnig ydy Robert Hayles (ganwyd 21 Ionawr 1973, Portsmouth)[2]. Yn ogystal a redio i dîm cenedlaethol Lloegr a Phrydain, mae'r rasio dros 'Team KLR-Parker International-Dolan Bikes'. Adnabyddir ef orau am ei lwyddiannau yn rasus Pursuit tîm a Madison.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Robert John Hayles |
Llysenw | Rob |
Dyddiad geni | (1973-01-21) 21 Ionawr 1973 (51 oed) |
Taldra | 1.86 m [1] |
Pwysau | 80 kg [1] |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd a Trac |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Proffesiynol | |
1994 1995 1996-1997 1998 1999 2001-2003 2005 2007 |
Team Haverhill-Taylor's Foundry All Media-Futurama Team Ambrosia Team Brite Tony Doyle Ltd-Clarkes Contracts Cofidis Recycling.co.uk Team KLR-Parker International-Dolan Bikes |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd x2 Pencampwr Prydain x15 Gemau Olympaidd Gemau Olympaidd x2 Gemau'r Gymanwlad Gemau'r Gymanwlad | |
Golygwyd ddiwethaf ar 25 Medi, 2007 |
Cynyrchiolodd Brydain yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn y Pursuit Tîm yn Atlanta yn 1996, yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000, cystadleuodd yn y Ras Ffordd a'r Pursuit ac enillodd fedal efydd yn y Pursuit Tîm. Roedd yn fuddugol unwaith eto yng Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004, gan ennill fedal arian yn y Pursuit Tîm y to yma ac efydd yn y Madison, cystadlodd hefyd yn y yn y pursuit unigol.[2]
Yn 2001 ymunodd Rob dîm rhyngwladol Cofidis, a chystadlodd mewn nifer o glasuron y ffordd, megis y Paris-Roubaix a'r Ronde van Flanderen, hyd 2003, yn gweithio fel domestique yn cefnogi gweddill y tîm.
Mae Rob yn byw yn High Peak, Swydd Derby, mae'n briod ac mae ganddo ferch.[3]