Sarah Palin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Americanaidd, sylwebydd, awdur a chyn-lywodraethwraig o Alaska yw Sarah Louise Palin (née Heath; ganwyd 11 Chwefror 1964). Hi oedd Llywodraethwraig Alaska o 2006 hyd at ei hymddiswyddiad ym 2009. Fel yr enwebai o'r Blaid Weriniaethol am Is-Arlywyddiaeth 2008 gyda'r seneddwr John McCain o Arizona, hi oedd y person cyntaf o Alaska a'r ferch gyntaf o'r Blaid Weriniaethol i gael ei henwebu. Mae ei llyfr "Going Rogue: An American Life|Going Rogue" wedi gwerthu mwy na dwy filiwn o gopïau.
Sarah Palin | |
---|---|
9fed Llywodraethwr o Alaska | |
Yn ei swydd 4 Rhagfyr 2006 – 26 Gorffennaf 2009 | |
Lieutenant | Sean Parnell |
Rhagflaenwyd gan | Frank Murkowski |
Dilynwyd gan | Sean Parnell |
Cadeirydd o'r Alaska Oil and Gas Conservation Commission | |
Yn ei swydd 19 Chwefror 2003 – 23 Ionawr 2004 | |
Llywodraethwr | Frank Murkowski |
Rhagflaenwyd gan | Camille Taylor |
Dilynwyd gan | John Norman |
Maer o Wasilla | |
Yn ei swydd 14 Hydref 1996 – 14 Hydref 2002 | |
Rhagflaenwyd gan | John Stein |
Dilynwyd gan | Dianne Keller |
Aelod o Gyngor Dinas Wasilla | |
Yn ei swydd 19 Hydref 1992 – 14 Hydref 1996 | |
Rhagflaenwyd gan | Dorothy Smith |
Dilynwyd gan | Colleen Cottle |
Manylion personol | |
Ganwyd | Sarah Louise Heath (1964-02-11) 11 Chwefror 1964 (60 oed) Sandpoint, Idaho, U.S. |
Plaid wleidyddol | Gweriniaethol |
Priod | Todd Palin (pr. 1988) |
Plant | 5 (Bristol Palin yn nodedig) |
Alma mater | University of Idaho |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Llofnod | |
Gwefan | https://sarahpalinchannel.com |
Cafodd ei hethol i Gyngor Dinas Wasilla ym 1992, a daeth yn Faer Wasilla ym 1996. Yn 2003, ar ôl ymgais aflwyddiannus i ddod yn Ddirprwy Lywodraethwr, cafodd ei phenodi i'r "Alaska Oil and Gas Conservation Commission", sy'n gyfrifol am ddiogelwch ac effeithlonrwydd y meysydd olew a nwy yn y dalaith. Hi yw'r person ieuengaf a'r ferch gyntaf i gael ei hethol yn Llywodraethwraig Alaska,[1] cynhaliodd Palin y swydd o fis Rhagfyr 2006 tan ei hymddiswyddiad ym mis Gorffennaf 2009.
Ers gadael ei swydd, mae hi wedi cefnogi ac ymgyrchu ar gyfer y symudiad Tea Party, yn ogystal â nifer o ymgeiswyr eraill mewn nifer o etholiadau. O 2010 i 2015, roedd hi'n darparu sylwebaeth wleidyddol ar gyfer Fox News.[2] Ar 3 Ebrill 2014, dechreuodd Palin ei chyfres teledu newydd , "Amazing America with Sarah Palin" ar Sportsman Channel.[3][4] Ar 27 Gorffennaf 2014, lansiodd Palin sianel newyddion ar-lein: "Sarah Palin Channel".[5]