Tegeirian
teulu o blanhigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Teulu amryfath o blanhigion blodeuol yw teulu'r tegeirian neu'r Orchidaceae, gyda blodau sydd yn aml yn lliwgar, persawrus a chymhleth.
Tegeirian Amrediad amseryddol: 80–0 Miliwn o fl. CP Cretasaidd hwyr – diweddar | |
---|---|
Tudalen o'r llyfr Kunstformen der Natur (1904) gan Ernst Haeckel | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotyledonau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Orchidaceae |
Teip-enws | |
Orchis Tourn. ex L. | |
Is-deuluoedd | |
| |
Dosbarthiad poblogaethau'r teulu Orchidaceae |
Yr Orchidaceae yw teulu mwyaf y planhigion blodeuol. Mae tua 28,000 rhywogaeth wedi eu cydnabod yn y teulu, wedi eu cynnwys mewn 763 genws.[1][2] Mae'r teulu'n cynnwys tua 6-11% blanhigion hadau'r byd.[3] Y genera â'r nifer mwyaf o aelodau yw Bulbophyllum (2,000 rhywogaeth), Epidendrum (1,500 rhywogaeth), Dendrobium (1,400 rhywogaeth) a Pleurothallis (1,000 rhywogaeth).
Mae'r teulu hefyd yn cynnwys Vanilla (genws y planhigyn fanila), Orchis (teipdylwyth y teulu) a llawer o blanhigion sy'n cael eu meithrin yn fasnachol, megis Phalaenopsis a Cattleya. Yn ogystal, ers i rywogaethau trofannol gael eu cyflwyno i'r diwydiant garddwriaeth yn y 19G, mae garddwriaethwyr wedi cynhyrchu mwy na 100,000 o gymysgrywiau a chyltifarau.