Undeb Cynghrair y Cenhedloedd
Corff a sefydlwyd i gefnogi amcanion Cynghrair y Cenhedloedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd (Saesneg: League of Nations Union) yn sefydliad a ffurfiwyd ym mis Hydref 1918 ym Mhrydain i hyrwyddo cyfiawnder rhyngwladol, cyd-ddiogelwch a heddwch parhaol rhwng cenhedloedd yn seiliedig ar ddelfrydau Cynghrair y Cenhedloedd. Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd gan y Pwerau Mawr (Prydain, Ffrainc, yr UDA, yr Eidal ag ati) fel rhan o Gytundebau Heddwch Versailles, y setliad rhyngwladol a ddilynodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Creu cymdeithas gyffredinol o genhedloedd oedd un olaf Pedwar Pwynt ar Ddeg yr Arlywydd Woodrow Wilson. Daeth yr LNU y sefydliad mwyaf a mwyaf dylanwadol yn y mudiad heddwch Prydeinig.[1][2] Erbyn canol y 1920au, roedd ganddi dros chwarter miliwn o danysgrifwyr cofrestredig[3] ac yn y pen draw cyrhaeddodd ei haelodaeth uchafbwynt o tua 407,775 yn 1931. Erbyn y 1940au, ar ôl siomedigaethau argyfyngau rhyngwladol y 1930au a'r disgyniad i'r Ail Ryfel Byd, gostyngodd aelodaeth i tua 100,000.[4]