Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog
ail fab Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (Andrew Albert Christian Edward; ganwyd 19 Chwefror 1960) yw ail fab a thrydydd plentyn Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a Thywysog Philip, Dug Caeredin a'r 3ydd yn yr olyniaeth am goron y Deyrnas Unedig.
Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog | |
---|---|
Ganwyd | Andrew Albert Christian Edward 19 Chwefror 1960 Palas Buckingham |
Bedyddiwyd | 8 Ebrill 1960 |
Man preswyl | Royal Lodge, Sunninghill Park |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peilot hofrennydd, swyddog yn y llynges, gwleidydd, pendefig |
Swydd | Special Representative for International Trade and Investment, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Lord High Commissioner to the General Assembly of the Church of Scotland, Counsellor of State, Dug Iorc |
Tad | y Tywysog Philip, Dug Caeredin |
Mam | Elisabeth II |
Priod | Sarah Ferguson |
Partner | Koo Stark |
Plant | Princess Beatrice of York, Princess Eugenie of York |
Llinach | Tŷ Windsor |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Medal Cofio 1990, Seland Newydd, Urdd y Gardas, Queen Elizabeth II Silver Jubilee Medal, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Royal Fellow of the Royal Society |
Gwefan | https://thedukeofyork.org/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | The Royal and Ancient Golf Club of St Andrews |
llofnod | |
Mae'n adnabyddus am ei wasanaeth milwrol a'r rhan a chwaraeodd yn Rhyfel y Falklands, am ei ffling efo Koo Stark yn y 1970au ac am ei gysylltiad gyda'r paedoffil Jeffrey Epstein yn y 2010au. Ei lysenw yw "Randy Andy"[1] Chwalodd priodas Andrew â Sarah Ferguson, digwyddiad a gafodd cryn dipyn o sylw gan y papurau newyddion tabloid. Arferai weithio fel Cynrychiolydd Arbennig y Deyrnas Unedig o ran Buddsoddiad a Masnach Rhyngwladol, hyd at 2011 ac ar 20 Tachwedd 2019 dywedodd na fyddai'n ymgymryd a dyletswyddau brenhinol yn rhagor.[2]
Mae hefyd yn adnabyddus am sawl sgandal, gan gynnwys y cyhuddiad ei fod yn gysylltiedig â'r pedoffil Jeffrey Epstein. Honir iddo gael rhyw gyda merch a oedd dan oed, Virginia Roberts ar 10 Mawrth 2001. Yn Nhachwedd 2019 ymddangosodd ar y rhaglen Newsnight gan wadu'r honiadau hyn.[3] Ar 13 Ionawr 2022, collodd y Tywysog ei teitlau brenhinol seremoniol.[4]