Radio Bro-Gwened
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Radio Bro Gwened yn 1983 fel gorsaf radio i wasanaethu ardal Bro Gwened (Morbihan) yn Llydaw. Mae'n darlledu rhaglenni yn Llydaweg a Ffrangeg gyda'r amcan o hyrwyddo a diogelu'r iaith Lydaweg a diwylliant Llydaw. Lleolir y pencadlys yn Pontivy.
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf radio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1983 |
Pencadlys | Pondi |
Gwefan | http://www.radio-bro-gwened.com |
Mae'n darlledu ar dair amledd FM : 92.6 Mhz (Pontivy), 101.7 Mhz (Nord-Morbihan) a 97.3 Mhz (De-Morbihan). Mae Radio Bro-Gwened yn darlledu 7 awr o raglenni amrywiol (4 awr yn Llydaweg) yn ogystal â rhaglenni newyddion a deunydd arall. Mae ar gael fel radio rhyngrwyd hefyd.
Mae Radio Bro-Gwened hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg a elwyd yn wreiddiol yn Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") ond a elwir bellach yn Radio Breizh.[1]